Cancel simulation
(or press "esc")

Skip to main content
(press enter)

Offer defnyddiol

Mae llawer o offer sy'n helpu pobl i wella hygyrchedd eu cynnwys digidol.

Webaim WAVE 

Offeryn yw WAVE sy'n helpu crewyr cynnwys gwe i wella hygyrchedd eu gwefannau. Yn fwy penodol, gall nodi'r mwyafrif o wallau ac elfennau o'r dudalen nad ydynt yn dilyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG).

Yn ogystal â nodi'r materion o fewn tudalennau gwe, ei nod yw addysgu am hygyrchedd gwe trwy ddarparu atebion clir a chryno i'r gwallau a rheswm pam fod angen datrys problemau a amlygwyd a sut y gallant effeithio ar brofiad y defnyddiwr.

Webaim Contrast Checker

Offeryn ar-lein yw WebAIM sy'n cymharu dau liw (un ar gyfer y testun ac un ar gyfer y cefndir) ac yn nodi lefel y cyferbyniad rhyngddynt. Mae lefel y cyferbyniad yn newid, hefyd, mewn perthynas â maint y testun ac am y rheswm hwn mae WebAIM yn darparu gwahanol lefelau o werthuso yn unol ag ef.

Mae'r offeryn hwn yn syml iawn i'w ddefnyddio, does ond angen i'r defnyddiwr ddewis y lliw o'r ddewislen, neu ysgrifennu'r cod hecsadegol cymharol, a bydd WebAIM yn dangos yn awtomatig a yw'r cyfuniadau o liwiau yn hygyrch ai peidio.

Google Lighthouse

Mae Lighthouse yn offeryn pwerus a ddefnyddir i wirio a gwella ansawdd tudalennau gwe. Yn ogystal â gwerthuso lefel hygyrchedd y cynnwys, gall hefyd ddangos y perfformiadau, optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) a mwy.

Mae Google Lighthouse yn syml iawn i'w ddefnyddio; gallwch ei redeg o Chrome DevTools, copïwch a gludwch URL y dudalen we rydych chi am ei gwerthuso ac yn gyflym bydd yn darparu adroddiad yn dangos sut mae'r dudalen yn hygyrch a hefyd gwybodaeth ar berfformiad. Ar ôl cynnal y gwerthusiad, gall y defnyddiwr ddarllen y cyfeiriadau yn yr adroddiad er mwyn deall sut i gywiro unrhyw wallau a, hefyd, ddeall a ydynt yn bwysig.

Microsoft Word

Mae Microsoft Word yn cynnig gwiriwr hygyrchedd sy’n helpu’r defnyddiwr i ddod o hyd i unrhyw faterion hygyrchedd o fewn y ddogfen. Er mwyn gwirio’r ddogfen, rhaid i’r ysgrifennwr ddewis y botwm "Check Accessibility” yn y tab "Review" ar y fwydlen uchaf. Ar ôl hynny, caiff adroddiad gyda’r holl wallau a rhybuddion ei arddangos a gall y defnyddiwr eu cywiro’n hawdd drwy ddilyn y cyfarwyddiadau sy’n cael eu darparu’n awtomatig.

Adobe Acrobat

Mae'r feddalwedd boblogaidd i ddarllen ffeiliau PDF, Adobe Acrobat, yn cynnig gwiriwr hygyrchedd sy’n syml iawn i'w ddefnyddio. Trwy ddewis y botwm perthnasol, gall y defnyddiwr benderfynu gwneud gwiriad hygyrchedd llawn o'r ddogfen neu addasu'r ymchwil i elfennau penodol yn unig. Ar ôl cwblhau'r sgan, bydd adroddiad manwl yn cael ei arddangos yn dangos gwallau hygyrchedd a rhybuddion a'u safle o fewn y dudalen. Yn ogystal, mae'r archwiliad yn darparu canllaw manwl i gywiro pob gwall a rheswm pam y mae angen datrys y materion hyn.