Cancel simulation
(or press "esc")

Skip to main content
(press enter)

HEIW Accessibility

“Grym y We yw ei gyffredinolrwydd.
Mae mynediad i bawb waeth beth fo'u hanabledd yn agwedd hanfodol.”

Tim Berners-Lee, Cyfarwyddwr W3C a dyfeisiwr y We Fyd Eang

Mae hygyrchedd ar gyfer pawb! Efallai eich bod yn meddwl mai'r unig ddefnyddwyr y mae cynnwys nad yw’n hygyrch yn effeithio arnyn nhw yw pobl sydd â rhyw fath o anabledd gweledol, corfforol, clywedol neu wybyddol. Nid yw hyn yn wir, mae gwefannau a chynnwys hygyrch da o fudd i bawb.

Efallai y bydd angen nodwedd hygyrch ar wefan ar bob un ohonom, ar ryw adeg neu’i gilydd. Gallai hyn fod oherwydd anabledd gydol oes ond gallai hyn hefyd fod oherwydd anabledd dros dro neu anabledd sefyllfaol. Rydym ni’n credu y dylai pawb gael yr un profiad wrth ymweld â'n gwefannau. Dylai ein cynnwys gwe a digidol fod ar gael i bawb waeth beth fo'u gallu, eu hoedran, eu sefyllfa neu eu hanabledd.

Dyma rai ystadegau ar faint o bobl yn y DU sydd â chyflyrau a namau penodol:

  • 14.1 miliwn o bobl anabl, mae hynny tua 1 o bob 5 person
  • mae gan tua 1.5 miliwn o bobl anhawster dysgu
  • amcangyfrifir bod gan 1 o bob 10 person ddyslecsia
  • amcangyfrifir bod 2 filiwn o bobl yn byw gyda cholli golwg
  • Mae 12 miliwn wedi colli clyw dros 25dBHL
  • amcangyfrifir bod 151,000 o bobl yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain

Ffynonellau: Family Resources Survey 2018/19, How common is a learning disability? (Mencap)Dyslexia (NHS)Key information and statistics on sight loss in the UK (RNIB)Facts and figures (RNID)

Er mwyn deall yr angen am gynnwys hygyrch rydym wedi llunio amrywiaeth o efelychiadau fel y gallwch weld sut y gallai eich cynnwys edrych i bobl sydd ag anghenion hygyrchedd penodol. Ceir hefyd ganllawiau defnyddiol sy'n dangos sut i ddatrys materion hygyrchedd cyffredin a dolenni i'ch helpu i ddarparu cynnwys hygyrch gwell.

Mae'r adran hon yn cynnwys rhestr o efelychiadau sy'n dynwared y mathau o brofiadau defnyddwyr yn seiliedig ar wahanol anableddau megis nam ar y golwg a nam ar y clyw, anabledd corfforol ac anabledd gwybyddol.

Er mwyn creu cynnwys hygyrch, mae rhai pethau y mae angen i chi roi sylw iddynt wrth greu tudalen we, dogfen PDF neu ffeil testun.

Mae llawer o offer sy'n helpu pobl i wella hygyrchedd eu cynnwys digidol.