Am Simon
Mae Simon yn ddyn 64 oed sy'n dioddef gyda Parkinson's. Mae'r clefyd hwn yn effeithio ar yr ymennydd ac yn arwain at broblemau symudedd fel cryndod na ellir ei reoli. Gall defnyddio'r cyfrifiadur fod yn anodd iawn iddo gan nad yw ei gyflwr yn caniatáu iddo gael rheolaeth effeithiol dros y llygoden.
Mae'n dweud y gall y weithred syml o agor dolen fod yn rhwystredig iawn, yn arbennig wrth ymdrin â thestun neu wrthrychau arbennig o fach ar dudalen.
Sut mae Simon yn ymdopi â hyn
Y dechnoleg gynorthwyol fwyaf addas ar ei gyfer yw defnyddio llwybrau byr "un allwedd" i lywio drwy'r dudalen (allwedd Tab fel arfer) neu ddarllenwyr sgrin.
Sut gallwn ni helpu Simon?
Y ffordd orau i ni helpu defnyddwyr fel Simon yw peidio â defnyddio testun bach neu fotymau bach gyda'n dolenni a hefyd labelu ein dolenni'n gywir ac yn gyd-destunol fel y gellir dod o hyd iddynt gyda thechnoleg darllen sgrin.