Am Lana
Mae Lana’n ferch ifanc sy'n methu symud ers ei geni. Nid oes ganddi unrhyw anabledd gwybyddol ond mae ei hanallu i symud yn ei hatal rhag gwneud y rhan fwyaf o'r pethau syml y gall pobl eraill eu gwneud. Oherwydd ei chyflwr, nid yw'n gallu defnyddio llygoden y cyfrifiadur.
Sut mae Lana yn ymdopi â hyn
Y dechnoleg gynorthwyol fwyaf addas ar ei gyfer yw defnyddio llwybrau byr "un allwedd" i lywio drwy'r dudalen (allwedd Tab fel arfer) neu ddarllenwyr sgrin.
Sut gallwn ni helpu Lana?
Y ffordd orau i ni helpu defnyddwyr fel Lana yw labelu ein dolenni'n gywir ac yn gyd-destunol fel y gellir dod o hyd iddynt gyda thechnoleg darllen sgrin.
Hefyd, byddai defnyddio "hepgor dolenni llywio" yn golygu nad oes raid iddi dabio drwy'r un dolenni ar bob tudalen gan gyrraedd cynnwys y dudalen yn gyflymach.