Am Laura
Mae Laura’n fenyw 64 oed sy'n dioddef o gataractau. Mae ei chyflwr yn gwneud ei golwg yn aneglur a’i llygaid yn sensitif iawn i olau. Heb lawdriniaeth mae'n ei chael hi'n anodd gweld ac mae hyn yn mynd yn anoddach fyth pan fydd hi'n ceisio darllen erthygl ar-lein.
Sut mae Laura yn ymdopi â hyn
Er mwyn datrys y broblem a gallu defnyddio ei gliniadur a/neu lywio'r rhyngrwyd, rhaid i Laura ddefnyddio technolegau darllenydd sgrin fel JAWS, NVDA neu Window Eyes ar gyfer Windows, Voice Over ar gyfer dyfeisiau MacOS neu Chrome Vox ar gyfer dyfeisiau Chrome.
Sut gallwn ni helpu Laura?
Er mwyn helpu darllenwyr sgrin, mae'n bwysig bod ein cynnwys wedi'i farcio'n gywir gyda HTML. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn defnyddio testun ALT ar gyfer pob elfen nad yw'n destun ar y dudalen.