Am John
Mae John yn ddyn 45 oed sy'n dioddef o fath difrifol o bresbyopia sydd ddim yn caniatáu i'w lygaid ganolbwyntio'n iawn ar wrthrychau agos. Fel arfer mae'n gwisgo sbectol i ddarllen ond, yn anffodus, mae wedi torri ei sbectol a does ganddo’r un sbâr tan yr wythnos nesaf.
Sut mae John yn ymdopi â hyn
Er mwyn datrys y broblem a gallu defnyddio ei liniadur a/neu lywio'r rhyngrwyd heb ei sbectol, rhaid i John ddefnyddio technolegau darllenydd sgrin fel JAWS, NVDA neu Window Eyes ar gyfer Windows, Voice Over ar gyfer dyfeisiau MacOS neu Chrome Vox ar gyfer dyfeisiau Chrome.
Sut gallwn ni helpu John?
Er mwyn helpu darllenwyr sgrin, mae'n bwysig bod ein cynnwys wedi'i farcio'n gywir gyda HTML. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn defnyddio testun ALT ar gyfer pob elfen nad yw'n destun ar y dudalen.