Am Jason
Mae Jason yn 56 oed ac mae’n dioddef o golli ei olwg canolog, cyflwr dirywiol sy'n ei atal rhag gweld gwrthrychau sydd o'i flaen.
Sut mae Jason yn ymdopi â hyn
Er mwyn datrys y broblem a gallu defnyddio ei liniadur a/neu lywio'r rhyngrwyd, rhaid i Jason ddefnyddio technolegau darllenydd sgrin fel JAWS, NVDA neu Window Eyes ar gyfer Windows, Voice Over ar gyfer dyfeisiau MacOS neu Chrome Vox ar gyfer dyfeisiau Chrome.
Sut gallwn ni helpu Jason?
Er mwyn helpu darllenwyr sgrin, mae'n bwysig bod ein cynnwys wedi'i farcio'n gywir gyda HTML. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn defnyddio testun ALT ar gyfer pob elfen nad yw'n destun ar y dudalen.