Am Angela
Mae Angela’n 59 oed ac mae’n dioddef o golli ei golwg ymylol. Mae ei chyflwr yn ei chyfyngu i olwg twnnel, lle mae'n gallu gweld yn syth o'i blaen, ond nid y gwrthrychau ymylol.
Sut mae Angela yn ymdopi â hyn
Er mwyn datrys y broblem a gallu defnyddio ei gliniadur a/neu lywio'r rhyngrwyd, rhaid i Angela ddefnyddio technolegau darllenydd sgrin fel JAWS, NVDA neu Window Eyes ar gyfer Windows, Voice Over ar gyfer dyfeisiau MacOS neu Chrome Vox ar gyfer dyfeisiau Chrome.
Sut gallwn ni helpu Angela?
Er mwyn helpu darllenwyr sgrin, mae'n bwysig bod ein cynnwys wedi'i farcio'n gywir gyda HTML. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn defnyddio testun ALT ar gyfer pob elfen nad yw'n destun ar y dudalen.