Cancel simulation
(or press "esc")

Skip to main content
(press enter)

Nam ar y golwg

Mae'r adran hon yn cynnig amryw o efelychiadau sy'n rhoi cyfle i chi weld yr anawsterau sydd gan ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg wrth lywio gwefannau. Dewiswch berson isod i roi cynnig ar efelychiad.

Yn yr adran hon

Mae John yn ddyn 45 oed sy'n dioddef o fath difrifol o bresbyopia sydd ddim yn caniatáu i'w lygaid ganolbwyntio'n iawn ar wrthrychau agos.

Mae Laura’n fenyw 64 oed sy'n dioddef o gataractau. Mae ei chyflwr yn gwneud ei golwg yn aneglur a’i llygaid yn sensitif iawn i olau.

Mae'r adran hon yn cynnwys efelychiad ar gyfer tri math o liwddallineb ac ymarfer syml i chi roi cynnig arno.

Mae Jason yn 56 oed ac mae’n dioddef o golli ei olwg canolog, cyflwr dirywiol sy'n ei atal rhag gweld gwrthrychau sydd o'i flaen.

Mae Angela’n 59 oed ac mae’n dioddef o golli ei golwg ymylol.