Am Jennifer
Mae Jennifer yn 21 oed ac mae ganddi ddiffyg clyw sylweddol sy'n ei hatal rhag clywed yn iawn. Am y rheswm hwn mae'n ei chael hi'n anodd gwrando ar bobl, yn enwedig mewn amgylcheddau swnllyd a hefyd, i wylio fideos.
Mae'r fideo canlynol yn dangos sut y byddai Jennifer yn clywed wrth ei wylio.
Sut mae Jennifer yn ymdopi â hyn
Fel y gallwch glywed, mae'n eithaf anodd deall yr hyn y mae'r bobl yn ei ddweud yn glir. Ei hunig ffordd o ddeall cynnwys fideo yw drwy edrych ar yr iaith arwyddion, os fydd wedi’i darparu, neu drwy ddarllen y capsiynau.
Sut gallwn ni helpu Jennifer?
Er mwyn helpu pobl fel Jennifer, mae angen i ni i sicrhau bod gan yr holl gynnwys fideo a ychwanegwn at y we gapsiynau testun da a thrawsgrifiad testun o'r fideo hefyd.