Am Luis
Mae Luis yn fachgen 15 oed sy'n dioddef o ddyslecsia. Oherwydd ei gyflwr, mae'n ei chael hi'n anodd darllen ac mae weithiau'n drysu llythrennau a rhifau.
Sut mae Luis yn ymdopi â hyn
Mae Luis yn hoffi i'r testun fod yn fyr ac yn gryno. Os bydd unrhyw beth yn rhy hir, ni fydd yn ceisio’i ddarllen os nad oes rhaid iddo, neu bydd yn rhoi'r gorau i'w ddarllen ar ôl darllen darn ohono.
Sut gallwn ni helpu Luis?
Er mwyn helpu Luis dylem ni bob amser ddefnyddio maint ffont o tua 12pt - 14pt ar gyfer dogfennau a thua 16px ar gyfer gwefannau. Dylem ddefnyddio ffont sans-serif clir a cheisio cadw penawdau tua 20% yn fwy na thestun y corff.
Dylem hefyd geisio defnyddio geiriau byrrach yn hytrach na dewisiadau amgen hirach lle bo'n bosibl ac mae defnyddio rhestrau pwyntiau bwled hefyd yn helpu i dorri paragraffau hirach yn llai ac yn gwneud pethau'n haws i'w deall.