Am Adam
Mae Adam yn oedolyn 29 oed sy'n dioddef o Syndrom Asperger a gorbryder. Mae ei gyflyrau’n ei gwneud yn anodd iddo ganolbwyntio ar dasgau syml, fel darllen neu wylio fideo.
Er mwyn lleihau nifer y pethau allai dynnu ei sylw, yn aml mae angen iddo addasu lliwiau a gosodiadau eraill y sgrin.
Sut mae Adam yn ymdopi â hyn
Y ffordd orau iddo leihau'r broblem hon wrth lywio ar y Rhyngrwyd yw trwy ddefnyddio offeryn penodol sy'n newid y lliwiau i wella'r ffocws, er enghraifft Midnight Lizard.
Sut gallwn ni helpu Adam?
Dylem ddefnyddio ffont sans-serif clir a cheisio cadw penawdau tua 20% yn fwy na thestun y corff. Dylem dorri paragraffau hir yn llai a defnyddio isbenawdau a rhestrau i wneud neges y dudalen yn gliriach ac yn haws i'w deall.