Pwrpas penawdau ar dudalen yw rhoi strwythur a threfn trwy roi teitlau i'r adrannau a'r is-adrannau.
Daw eu heffeithiolrwydd pan gânt eu defnyddio’n gywir mewn trefn hierarchaidd. I ddefnyddiwr heb unrhyw anabledd penodol efallai na fydd eu trefn yn amlwg iawn ond i berson sy'n defnyddio technolegau darllen sgrin, mae eu trefn a'u hierarchaeth yn hanfodol ar gyfer deall yn glir strwythur y dudalen a'r berthynas rhwng adrannau ac is-adrannau cymharol, heb ddryswch na "mynd ar goll" wrth lywio.
Defnyddio penawdau mewn HTML
Mae tagiau HTML er mwyn creu pennawd, a’u hierarchaeth, yn edrych fel hyn:
<h1>My title</h1>
<h2>Section 1</h2>
<h2>Section 2</h2>
<h3>Subsection 2.1</h3>
<h2>Section 3</h2
Mae'n hollbwysig peidio â defnyddio tagiau penawdau’n anghywir. Un o'r gwallau cyffredin wrth ysgrifennu cod HTML, yw aseinio tagiau pennawd i ddarnau o destun dim ond i'w wneud yn fwy, er nad yw'n bennawd go iawn.
Camgymeriad cyffredin arall yw defnyddio tagiau penawdau heb ddilyn y drefn hierarchaidd gywir. Ni ddylech fyth hepgor lefel pennawd, dylech ddilyn y drefn gywir fel y dangosir yn y sampl cod uchod. Er enghraifft, ni ddylech neidio o bennawd ail lefel (<h2>) yn syth i bennawd pedwerydd lefel (<h4>) heb gael pennawd trydydd lefel yn gyntaf (<h3>).
Gall y camgymeriadau hyn arwain at lawer o ddryswch i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin am na fyddai gwir strwythur y dudalen yn glir iddynt.
Defnyddio penawdau yn Microsoft Word
I ddefnyddio penawdau’n gywir yn Microsoft Word:
- Uwcholeuwch deitl unrhyw adran
- Yn adran Styles y tab Home, dewiswch y pennawd priodol trwy roi sylw i’r strwythur hierarchaidd.
Sylwch yn y sgrinlun uchod fod gan y pedwar pennawd wahanol feintiau mewn perthynas â'u safle hierarchaidd.
Defnyddio penawdau yn Adobe Acrobat
I ychwanegu pennawd at ddogfen PDF gan ddefnyddio Adobe Acrobat:
- Cliciwch ar yr offeryn Accessibility,
- Dewiswch Reading Order,
- Uwcholeuwch y rhan o’r testun rydych eisiau ei defnyddio fel pennawd,
- O’r ffenest sydd ar agor dewiswch y pennawd mwyaf addas ac yna gwasgwch Close.