Cancel simulation
(or press "esc")

Skip to main content
(press enter)

Dolenni

Wrth greu dolen sy'n ailgyfeirio i dudalen arall, mae'n bwysig iawn defnyddio dolenni cyd-destunol yn hytrach na dangos URL neu destun amwys fel "cliciwch yma…”

Y rheswm pam y dylech ddefnyddio dolenni disgrifiadol cyd-destunol yw oherwydd yn aml bydd darllenydd sgrin yn cylchu trwy'r holl ddolenni ar dudalen ac yn darllen dolen allan o'i chyd-destun. Bydd angen i'r defnyddiwr wybod beth yw pwrpas y ddolen ac i ble mae'n mynd, heb orfod darllen yr URL llawn.

Mae'r ddwy ddolen ganlynol yn cyfeirio at yr un dudalen we. Fodd bynnag, yr un gyntaf yw URL "copi a gludo" syml nad yw, ar yr olwg gyntaf, yn rhoi unrhyw wybodaeth am ei chynnwys. Mae gan yr ail un, yn lle hynny, enw cyd-destunol sy'n reddfol, yn gwneud synnwyr ac yn rhoi syniad o'i chyrchfan.

  1. https://www.w3.org/TR/WCAG21/
  2. Web content accessibility guidelines

Yn ddiofyn cyflwynir dolenni mewn lliw gwahanol (glas fel arfer). Fodd bynnag, efallai na fydd pobl â lliwddallineb yn gallu sylwi ar y gwahaniaeth; am y rheswm hwn mae dolenni’n cael eu tanlinellu hefyd er mwyn eu gwneud yn weladwy.

Peth pwysig arall i'w ystyried wrth aseinio testun i'r dolenni yw osgoi ymadroddion fel:

  • Clicwch yma
  • Mwy
  • Darllenwch fwy
  • Ein gwefan

Ychwanegu dolen mewn tudalen HTML page

I ychwanegu dolen mewn tudalen HTML defnyddiwch dag anchor (<a>):

<a href="https://www.w3.org/TR/WCAG21/">Web content accessibility guidelines</a>

Ychwanegu dolen mewn dogfen Microsoft Word

Mae ychwanegu dolen i ddogfen Word yn syml iawn:

  1. Ewch i adran Links y tab Insert a dewis Link,
  2. Wrth ymyl Text to display mewnosodwch destun priodol ac, wrth ymyl Address mewnosodwch yr URL.

Adding link to Word document

Ychwanegu dolen yn Adobe Acrobat

Er mwyn ychwanegu dolen mewn dogfen PDF gan ddefnyddio Adobe Acrobat:

  1. De-gliciwch ar y testun rydych am ei ddefnyddio fel dolen a dewis Create Link...,
  2. Ticiwch yr opsiwn Open a web pageyn yr adran Link Action,
  3. Gludwch yr URL yn y ffenestr newydd a gwasgwch OK.