Delweddau yw un o'r elfennau ar dudalen y gallai pobl sydd â phroblemau gyda’u golwg ei chael yn anodd, neu hyd yn oed yn amhosibl, eu gweld.
I ddatrys y broblem hon dylech ychwanegu testun amgen at bob delwedd. Ei ddiben yw disgrifio'r ddelwedd fel bod defnyddiwr sy'n defnyddio darllenydd sgrin yn gwybod beth yw cynnwys y ddelwedd.
Defnyddio testun amgen mewn HTML
Mae'r cod HTML canlynol yn dangos sut i ychwanegu testun amgen at lun syml. Rhaid i'r disgrifiad fod yn gyflawn ac yn gryno.
<img src="2-cats.jpg" alt="Dwy gath lwyd yn cwtsho" />
Defnyddio testun amgen yn Microsoft Word
I ychwanegu testun amgen at ddelwedd mewn dogfen Word:
- De-gliciwch ar ddelwedd,
- Dewiswch Edit Alt Text...,
- Ychwanegwch eich disgrifiad.
Defnyddio testun amgen yn Adobe Acrobat
I ychwanegu testun amgen at ddelwedd mewn dogfen PDF gan ddefnyddio Adobe Acrobat:
- Cliciwch ar yr offeryn Accessibility,
- Dewiswch Set Alternate Text,
- Teipiwch y disgrifiad mwyaf priodol o’r ddelwedd.
Nodyn cyflym ynghylch delweddau sy'n cael eu defnyddio fel addurniadau
Os yw’r ddelwedd yn cael ei defnyddio at ddibenion addurniadol, er enghraifft fel cefndir neu addurn cornel, nid oes angen defnyddio testun amgen. Yn Microsoft Word neu Adobe Acrobat mae gennych yr opsiwn i dicio'r blwch " Decorative figure," fodd bynnag, mewn HTML, gallwch adael y dyfynodau sy’n berthnasol i'r testun amgen yn wag:
<img src="my-background.jpg" alt="" />